Cipolwg
Mae’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein bellach mewn grym. Mae’r Ddeddf yn golygu bod gwasanaethau ar-lein sydd â defnyddwyr yn y DU yn gyfreithiol gyfrifol am gadw oedolion a phlant yn ddiogel ar-lein – hyd yn oed os yw’r busnes sy’n darparu’r gwasanaethau wedi’i leoli y tu allan i’r DU.
Ofcom yw rheoleiddiwr diogelwch ar-lein y DU ac felly mae’n gyfrifol am ddarparu canllawiau a chymorth i gefnogi gwasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio, am sicrhau bod gwasanaethau’n cydymffurfio â’u rhwymedigaethau newydd, ac am gymryd camau i greu bywyd mwy diogel ar-lein.
Mae’r dyletswyddau i ddiogelu plant yn ychwanegol at y ddyletswydd i gadw pob defnyddiwr yn ddiogel rhag cynnwys anghyfreithlon ar-lein.
Ymunwch â ni ar gyfer cynhadledd ar-lein – cyfres o weminarau ar 4 Mehefin 2025 a fydd yn;
- esbonio beth mae dyletswyddau diogelu plant y Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn ei olygu i chi
- dangos sut mae defnyddio ein pecyn cymorth digidol diweddaraf (ar gael o fis Mai 2025 ymlaen) i sicrhau bod eich busnes yn cydymffurfio
- rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn sesiynau holi ac ateb rhyngweithiol
Pwy ddylai ddod: Unrhyw un y mae plant yn. debygol o ddefnyddio ei wasanaethau o dan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein. Edrychwch yma i weld a yw’r Ddeddf Diogelwch Ar-lein yn berthnasol i chi. Os felly, mae angen i chi wirio a yw plant yn debygol o ddefnyddio eich gwasanaeth drwy ein Hasesiad Mynediad i Blant.
Erbyn hyn, dylai pob gwasanaeth a reoleiddir fod wedi cwblhau ei Asesiad Mynediad i Blant.
Mae’r gynhadledd hon ar gyfer y diwydiant a’r rhai sy’n cefnogi cydymffurfio, ond gallai hefyd fod o ddiddordeb i eraill sy’n gweithio ym maes diogelwch ar-lein.
Beth i’w wneud nesaf: Cofrestrwch i ymuno â'r digwyddiad ac i gael mynediad at unrhyw sesiynau a deunyddiau a recordiwyd. Byddwn yn darparu rhai sesiynau ar gais ar ôl y digwyddiad. Bydd rhagor o wybodaeth am yr agenda a’r sesiynau unigol ar gael cyn bo hir!